ColegauCymru yn darparu tystiolaeth yn Ymchwiliad y Senedd i weithrediad Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Senedd Website Banner.png

Ddoe rhoddodd Pennaeth Cynorthwyol Coleg Caerdydd a’r Fro, Yusuf Ibrahim, dystiolaeth ar ran y sector Addysg Bellach i Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, gan roi manylion am sut y mae colegau ledled Cymru yn cymryd agwedd ragweithiol at wrth-hiliaeth.

Siaradodd Yusuf am y cydweithio ar draws colegau ar weledigaeth a rennir i ddileu hiliaeth mewn addysg bellach ac i hybu diddordebau ac amrywiaeth ein dysgwyr, cydweithwyr ac arweinwyr. Manylodd hefyd ar sut mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn arwain trwy esiampl yn y maes hwn, gyda datblygiad adnoddau gwrth-hiliaeth a chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu deunyddiau cwricwlwm ar gyfer y sector. Galwodd Yusuf am becyn cymorth hollbwysig a chynaliadwy i alluogi colegau i barhau â’r daith bwysig hon.

Ymrwymiad sector
Mae pob sefydliad addysg bellach yng Nghymru wedi cytuno ar eu Cynlluniau Gweithredu Wrth-Hiliaeth eu hunain i symud y gwaith hwn yn ei flaen yn lleol ac maent yn cydweithio ar draws y sector i ddatblygu adnoddau a rennir ar gyfer dysgwyr a staff. Mae hyn wedi arwain at gyflwyno hyfforddiant pwrpasol a datblygu cynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth sy'n benodol i bob coleg.

Gan weithio gyda’r Black Leadership Group (BLG) ar ran Llywodraeth Cymru, rydym yn helpu i ddeall y darlun presennol yn well ar draws y sector addysg bellach a chamau penodol y gallwn eu cymryd gyda’n gilydd, i adeiladu Cymru sy’n wrth-hiliol a helpu i gyflawni’r uchelgeisiau Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030.

Mae’r sector addysg bellach yng Nghymru yn dangos arweiniad gwirioneddol ar ei daith tuag at wrth-hiliaeth, ac mae gennym gyfle i gael effaith wirioneddol, gan adeiladu ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu Cymru wrth-hiliol. Nid ydym yn hunanfodlon ynghylch maint yr her, ond mae ymrwymiad gwirioneddol ac ystyrlon i newid ac i greu amgylcheddau sy'n gynhwysol ac yn ymatebol i anghenion pob dysgwr.

Arwain trwy esiampl – Coleg Caerdydd a’r Fro
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn arwain ar ddatblygu adnoddau gwrth-hiliaeth ac yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu deunyddiau cwricwlwm ar gyfer y sector addysg bellach. Wrth wneud hynny, maent yn rhannu arfer gorau i gefnogi addysg bellach i fabwysiadu dull hollgynhwysol o reoli a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y sector.

Dyma Bennaeth Cynorthwyol Coleg Caerdydd a’r Fro, Yusuf Ibrahim, yn rhannu ei feddylfryd ar y daith tuag at Gymru Wrth-hiliol. 

Cydweithio dros newid
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i golegau i gefnogi’r cymorth hwn ar y daith, ac wrth symud ymlaen, dylai Llywodraeth Cymru barhau i ymrwymo adnoddau i’r maes hwn. Mae colegau wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar draws y nodweddion gwarchodedig, ac mae'n hanfodol bod adnoddau priodol yn cael eu dyrannu i gyflawni cynlluniau cydraddoldeb.

Fel sector rydym yn cydnabod pwysigrwydd croestoriad ac y gall dysgwyr a staff wynebu sawl math o wahaniaethu. Mae colegau yng Nghymru wedi ymrwymo i symud agenda Cymru Wrth-hiliol yn ei blaen, a byddant yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i adeiladu Cymru wrth-hiliol.

Gwybodaeth Bellach

Rhwydwaith Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ColegauCymru
Mae ColegauCymru yn cynnull y Rhwydwaith Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, sy’n dod ag arweinwyr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) a chynrychiolwyr o bob rhan o’r sector addysg bellach yng Nghymru ynghyd, i fonitro, goruchwylio a datblygu materion sy’n ymwneud â’r naw nodwedd warchodedig fel y’u nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 - ac ehangu i gynnwys y Gymraeg a niwroamrywiaeth yn ei ystyr ehangaf.

Polisi a Strategaeth Llywodraeth Cymru
Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Yr hyn yr ydym yn mynd i'w wneud i wneud Cymru'n wrth-hiliol.
11 Hydref 2023 

Hwb 
Canllawiau cynllunio gweithredu gwrth-hiliaeth ar gyfer sefydliadau addysg bellach 
 
Amy Evans, Swyddog Polisi 
Amy.Evans@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.