ColegauCymru yn ymateb i gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru

Coins.jpg

Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllideb derfynol ar gyfer 2024/25. Wrth ymateb i’r gyllideb, dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, 

“Rydyn ni’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd prentisiaethau, a sut maen nhw’n cefnogi nodau polisi ehangach, ac rydyn ni’n croesawu dychweliad o £5.25 miliwn i gyllid prentisiaethau. Mae’n parhau i fod yn gyfnod ariannol hynod heriol i golegau, a bydd colli cyllid Ewropeaidd i gefnogi’r rhaglen brentisiaethau yn cael effaith sylweddol ar ddysgwyr, cymunedau a cholegau. 

Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud ymrwymiadau hirdymor i gyllid colegau – ar gyfer prentisiaethau ac addysg bellach, er mwyn sicrhau bod y sector yn gallu cyflawni ar gyfer dysgwyr a chyflogwyr o genedlaethau heddiw a’r dyfodol. Wrth i Gymru fynd drwy’r cyfnod economaidd cythryblus, colegau yw’r injan sgiliau sydd eu hangen i ysgogi ein hadferiad economaidd, a rhaid inni sicrhau bod colegau’n cael y cyllid cynaliadwy sydd ei angen arnynt i gefnogi dysgwyr a chyflawni ar gyfer cyflogwyr. Mae addysg bellach a phrentisiaethau yn ganolog i Gymru decach, wyrddach a chryfach”. 

Gwybodaeth Bellach

Rachel Cable, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus 
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.