Strategaeth Tlodi Plant ddrafft Cymru 2023

ECP Now Sign 2.jpg

Ymateb Ymgynghori

Llywodraeth Cymru 
Dyddiad Cyflwyno: 11 Medi 2023

Ar y cyfan, mae ColegauCymru yn cefnogi'r pum amcan yn y ddogfen ymgynghori. Rydym yn falch o’r cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar dorri’r cylch tlodi ar gyfer plant a phobl ifanc gyda’r cynnydd yn y lwfans LCA, a pharhad darpariaeth Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW) arall a ariennir megis y Warant Pobl Ifanc – sy’n cael ei gydnabod fel llwybr allan o dlodi i lawer o unigolion, yn enwedig pobl ifanc. Fodd bynnag, mae gwaith i’w wneud o hyd er mwyn sicrhau nad oes unrhyw berson ifanc yn byw o dan y llinell dlodi, a bod addysg neu hyfforddiant yn hygyrch i bawb. Mae ColegauCymru yn edrych ymlaen at yr adolygiad llawn o LCA a’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr – mae’r ddau yn allweddol i chwalu’r rhwystrau i ddysgwyr coleg a dysgu seiliedig ar waith i gael mynediad i addysg bellach neu hyfforddiant.

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch â Swyddog Polisi ColegauCymru, Amy Evans, gydag unrhyw gwestiynau.
Amy.Evans@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.