Erasmus+ 2021 – 2026

Eleni, bydd y Comisiwn Ewropeaidd yn lansio Erasmus+ 2021 - 2027 - yr iteriad nesaf o Erasmus+ gyda rhai newidiadau cyffrous i'r sector Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol. Nid yn unig y bydd cynnydd sylweddol yn y cyllid ar gyfer y rhaglen, ond bydd cyfleoedd hefyd i ddysgwyr galwedigaethol, prentisiaid a staff brofi gwaith a bywyd y tu hwnt i Ewrop - cyfleoedd sydd, hyd yma, wedi bod ar gael i Addysg Uwch yn unig.

Mynychodd Siân Holleran, Cydlynydd Ewropeaidd a Rhyngwladol, ‘Cyd-greu Erasmus+ a'r 'European Solidarity Corps'’, digwyddiad ym Mrwsel a roddodd swyddogion y Comisiwn Ewropeaidd, sy’n gyfrifol am ddatblygu’r rhaglen newydd, mewn cysylltiad â buddiolwyr cyllid Erasmus+ ac Asiantaethau Cenedlaethol o bob rhan o’r UE. Rhoddodd yr amrywiaeth o weithdai gyfle i fuddiolwyr o bob sector gyflwyno awgrymiadau i'r Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer gwella'r rhaglen yn enwedig mewn perthynas â symleiddio'r broses ymgeisio a rhannu data er mwyn gallu mesur effaith yn fwy effeithiol.

Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae ColegauCymru newydd gyflwyno gais mwyaf erioed am gyllid ar gyfer symudedd dysgwyr gan weithio gyda dros 40 o bartneriaid yr UE i alluogi 876 o ddysgwyr i ymgymryd â lleoliadau gwaith tymor byr ar draws 12 o wledydd yr UE. Mae llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd cyllid yn cael ei warantu ar gyfer y prosiectau hyn os cânt eu cymeradwyo. Fodd bynnag, nid yw rôl y DU yn rhaglen Erasmus+ yn y dyfodol wedi'i chadarnhau eto. Mae ColegauCymru yn annog llywodraeth y DU i roi sicrwydd y bydd y DU yn parhau i fod yn aelod llawn o Erasmus+ i sicrhau y gall dysgwyr, staff a phrentisiaid ddysg a hyfforddiant galwedigaethol barhau i elwa o'r cyfleoedd cyffrous hyn.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.