Rhaid i'r sectorau addysg bellach ac addysg uwch weithio ar y cyd yn hytrach nag mewn cystadleuaeth

Female learner with laptop.jpg

Yn dilyn cyfnewid rhwng y Gweinidog Addysg a Bethan Sayed AS, mae ColegauCymru wedi croesawu cydnabyddiaeth y llywodraeth ddoe bod gan y sector addysg bellach ran bwysig i’w chwarae wrth sicrhau trawsnewid parhaus mewn diwygio cyllid myfyrwyr. Ychwanegodd y Gweinidog, wrth symud ymlaen, y bydd yn hanfodol i'r sectorau addysg bellach ac addysg uwch weithio ar y cyd yn hytrach nag yn gystadleuol. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Rydym yn ddiolchgar i Bethan Sayed AS am dynnu sylw at y toriadau yng nghyllideb addysg bellach a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Cadarnhaodd bwysigrwydd sefydliadau addysg bellach (FEIs) gan fod cyrsiau addysg uwch yn aml yn cael eu cyflwyno mewn lleoliadau addysg bellach. Mae Ms Sayed yn adleisio ofnau ColegauCymru yn yr ystyr bod y sector wedi ei anghofio rhywfaint yn y ddadl.” 

Nid cyfleusterau addysgu yn unig yw sefydliadau addysg bellach Cymru. Maent yn asedau  cymunedol sy'n darparu gwasanaeth cyhoeddus hanfodol. Mae'r etholiadau i Senedd Cymru ym mis Mai 2021 yn cynnig cyfle delfrydol i ailffocysu a mireinio rôl a chyfraniad unigryw addysg bellach i'n dysgwyr a chymunedau amrywiol a deinamig Cymru. 

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru Dr Rachel Bowen,

“Mae ein Gofynion Polisi ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru yn ceisio ymrwymiad i fwy o gyllid a chyllidebu gwell i alluogi cynllunio mwy effeithiol. Mae anghenion ein dysgwyr yn parhau i fod yn brif ffocws i ni. Rydym yn awyddus i weithio'n agos gyda chydweithwyr etholedig llywodraeth nesaf Cymru i sicrhau chwarae teg i bob dysgwr ôl-16 gyrraedd ei botensial." 

Wrth edrych ymlaen, mae ColegauCymru o'r farn y gallai bwrw ymlaen â'r cynigion cyfredol ar gyfer diwygio addysg drydyddol dynnu sylw oddi wrth flaenoriaethau pwysicach.
 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.