Colegau Addysg Bellach yn dathlu llwyddiant canlyniadau Safon Uwch a galwedigaethol

48543957881_24393aa287_c.jpg

Mae ColegauCymru yn falch iawn o ddathlu gyda dysgwyr o bob rhan o Gymru wrth iddynt dderbyn canlyniadau eu cymwysterau heddiw. Mae llwyddiant dysgwyr Cymraeg yn dyst i'w hymroddiad ac i ymrwymiad ein haddysgwyr. 

Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru Guy Lacey, 

“Llongyfarchiadau i bob dysgwr wrth iddynt dderbyn canlyniadau UG/Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol yn dilyn tair blynedd anodd. Rydym hefyd yn anfon ein diolch diffuant at ein cydweithwyr addysg, rhieni a gofalwyr fel ei gilydd, sydd wedi cefnogi pobl ifanc wrth iddynt lywio’r cyfnod anodd hwn.” 

Eleni, mae’r daith yn ôl i drefniadau cymwysterau cyn y pandemig yn parhau. Cynhaliwyd arholiadau unwaith eto yn ystod mis Mai a mis Mehefin, a chwblhawyd asesiadau di-arholiad mewn llawer o bynciau hefyd. Mae dull ychydig yn wahanol wedi’i roi ar waith yr haf yma – mae canlyniadau cenedlaethol ar gyfer cymwysterau CBAC fwy neu lai hanner ffordd rhwng y canlyniadau a ddyfarnwyd yn 2019 (y flwyddyn olaf cyn y pandemig) a 2022 (y flwyddyn gyntaf i ddysgwyr sefyll arholiadau wrth i ni ddod allan o’r pandemig). 

Mewn blwyddyn arall sy’n llawn heriau ac ansicrwydd, yn fwy nag effaith y cynnydd mewn costau byw, mae dysgwyr wedi dangos eu gwydnwch a’u penderfyniad a chymeradwywn eu hymdrechion ynghyd ag ymdrechion darlithwyr a staff y coleg, sydd wedi cydweithio i greu amgylchedd yn ffafriol i alluogi llwyddiant. 

Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru David Hagendyk, 

“Rydym yn falch o ddathlu gwytnwch dysgwyr wrth iddynt ddod allan o gyfnod heriol, wrth wneud yn siŵr eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i symud ymlaen yn eu taith ddysgu neu i symud i gyflogaeth.

Mae Covid wedi gadael etifeddiaeth hir ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i gefnogi dysgwyr gyda’r effaith a gafodd y pandemig ar eu haddysg a’u hiechyd a’u lles."

Waeth beth fo’r canlyniadau heddiw, mae dysgwyr yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’n colegau addysg bellach gyda gwasanaethau cyngor ac arweiniad wrth law yn awr i’w cynorthwyo i gymryd eu camau nesaf i ddyfodol disglair. 

Gwybodaeth Bellach 

Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cymru 
Diwrnod canlyniadau: y Gweinidog Addysg yn llongyfarch myfyrwyr ar ôl cyfnod heriol
17 Awst 2023

Cysylltwch â'ch coleg lleol am gymorth ac arweiniad

Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.