Colegau addysg bellach yn rhannu arfer effeithiol wrth gyflwyno’r cwricwlwm SBA ar gyfer dysgwyr ag anghenion ychwanegol

ILS Gardening.png

Cynhadledd Sgiliau Byw'n Annibynnol 2023 

Roedd bwrlwm a brwdfrydedd rhwydweithio staff a rhannu arbenigedd yn ddangosydd clir bod Cynhadledd Sgiliau Byw’n Annibynnol ColegauCymru 2023 yn llwyddiant ysgubol. Ymunodd cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Esytn a Natspec â staff o golegau ledled Cymru yng Ngwesty’r Metropole yn Llandrindod ar 29 Mehefin 2023 i rannu arbenigedd a ffyrdd effeithiol o weithio gyda dysgwyr ag anghenion ychwanegol sy’n cofrestru ar gyrsiau Sgiliau Byw’n Annibynnol. 

Roedd gweithdy boreol a gyflwynwyd gan Ddirprwy Bennaeth Dysgu Coleg Chichester (a Natspec), Jane Ragless, yn gyfle i drafod gosod, rheoli a monitro targedau dysgwyr unigol. Dilynwyd hyn gan sesiwn fywiog yn edrych ar y ffyrdd gorau o ddod â thargedau dysgwyr yn fyw mewn sesiynau a gwaith prosiect. Roedd gweithgaredd ‘marchnad’ amser cinio yn boblogaidd, gan roi cyfle i golegau arddangos eu hadnoddau, i rwydweithio â chydweithwyr ac i ddysgu oddi wrth ei gilydd.

Yn y prynhawn, rhoddodd Arweinydd Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol ColegauCymru, Chris Denham, ddiweddariad ar Ddeddf ADY a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a’i gweithrediad. Dilynwyd hyn gan lansiad y ddogfen Safonau a Chanllawiau ar gyfer Llwybr 4/Interniaethau â Chymorth yng Nghymru; dogfen a gynhyrchwyd gan y Rhwydwaith SBA mewn partneriaeth ag asiantaethau cyflogaeth â chymorth a Phrosiect Search. 

Roedd y Gynhadledd hefyd yn ddathliad o gyflawniadau Rhwydwaith SBA sydd, yn y pum mlynedd diwethaf wedi: 

  • Datblygu a chyflwyno cwricwlwm SBA Ôl-16 sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, wedi'i arwain gan gyrchfannau, perthnasol ac ymarferol ar gyfer dysgwyr ag anableddau dysgu i'w paratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn; 
  • Cyhoeddi fframwaith hunanasesu a phecyn cymorth arweiniad ar gyfer y cwricwlwm; 
  • Hwyluso hyfforddiant i reolwyr ac ymarferwyr SBA ar ddefnyddio'r cwricwlwm newydd, gan gynnwys rhaglen o weminarau a chyfleoedd mentora; 
  • Datblygu canllawiau a safonau ar gyfer darpariaeth Llwybr 4 (pontio i gyflogaeth ac interniaethau â chymorth; 
  • Datblygu a chyflwyno proses cyfnewid cymheiriaid gyda cholegau'n gweithio gyda'i gilydd i ddysgu oddi wrth ei gilydd ac i safoni arfer; a 
  • Rhwydweithio mewn cyfarfodydd bob hanner tymor a digwyddiadau eraill, gan rannu arfer effeithiol ac adnoddau ledled Cymru. 

Dywedodd Anne Evans, Arweinydd Prosiect SBA ColegauCymru, 

Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn y gynhadledd, o ymarferwyr a rheolwyr addysg bellach yn ogystal â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru ac Estyn. Roedd y gweithdai a'r digwyddiad marchnadle yn gatalydd ar gyfer llawer o drafod bywiog trwy gydol y dydd. 

Mae’r llwyddiant wrth roi’r cwricwlwm newydd ar waith yn perthyn i’r Rhwydwaith SBA ac i'r staff sy’n gweithio gyda dysgwyr SBA ledled Cymru, gyda’r digwyddiad hwn yn amlygu pa mor effeithiol y gall cydweithio fel rhwydwaith fod.

Bydd Anne Evans, sydd wedi bod yn Arweinydd Ymgynghorol SBA ar gyfer prosiectau ColegauCymu ers 2017, yn ymddeol o’i rôl ar ddiwedd y flwyddyn academaidd hon. Eifiona Wyn Williams, cyn Rheolwr Maes Rhaglen SBA Grŵp Llandrillo Menai, fydd yn cymryd ei lle ac yn arwain gwaith SBA yn 2023/24. 

Gwybodaeth Bellach 

Anne Evans, Ymgynghorydd ac Arweinydd Prosiect SBA 
Anne.Evans@ColegauCymru.ac.uk

Eifiona Williams, Ymgynghorydd ac Arweinydd Prosiect SBA 
Eifiona.Williams@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.