Economi Werdd

net zero.jpeg

Ymateb Ymgynghori

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: 07 Mawrth 2024 

Mae angen i Lywodraeth Cymru sefydlu diffiniad clir o’r hyn y mae’n ei weld fel yr ‘economi werdd’ yng Nghymru, yn ogystal â diffinio’r hyn a ystyrir yn sgiliau a galwedigaethau ‘gwyrdd’ angenrheidiol sy’n sail iddi. Yn ogystal, mae angen i Lywodraeth Cymru fapio’n glir y blaenoriaethau ar gyfer Cymru, ar gyfer colegau a’u partneriaid o ran datblygu’r economi werdd. Ar gyfer y sector addysg bellach yng Nghymru, mae map ffordd clir tuag at economi werdd yn hanfodol, er mwyn galluogi cynllunio strategol hirdymor, mewn meysydd fel dylunio’r cwricwlwm, datblygu rhaglenni a chynllunio’r gweithlu.

Mae ColegauCymru yn parhau i eiriol dros strategaeth addysg a hyfforddiant galwedigaethol i gysylltu â blaenoriaethau economaidd a diwydiannol Cymru. Dylai Sero Net fod yn ystyriaeth allweddol yn y cynllun hwn i sicrhau bod gan Gymru’r ddarpariaeth sgiliau sydd ei hangen arni i gwrdd â’r her. Mae cyllid cynaliadwy i golegau i ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen ar Gymru yn hanfodol – gan gynnwys ar gyfer prentisiaethau a darpariaeth fwy hyblyg, er enghraifft, y Cyfrifon Dysgu Personol.

Mae ColegauCymru yn croesawu symudiadau Llywodraeth Cymru tuag at fwy o gydlynu ar draws yr agenda Sero Net a bydd yn parhau i gefnogi swyddogion gyda’r gwaith hwn.

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch â Swyddog Polisi ColegauCymru, Amy Evans, gydag unrhyw gwestiynau.
Amy.Evans@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.