Ar Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae ColegauCymru yn ymuno â rhanddeiliaid ôl-16 i fynd i’r afael â heriau a wynebir gan ddysgwyr yng Nghymru

talllearner.jpeg

Wrth i ni ddathlu #WythnosYmwybyddiaethIechydMeddwl, mae ColegauCymru yn falch o fod wedi cydweithio â rhanddeiliaid allweddol i lunio cyfres o egwyddorion polisi sy’n canolbwyntio ar yr heriau a wynebir gan fyfyrwyr mewn addysg ôl-16.

Gwelodd y Gweithgor ColegauCymru yn ymuno â Prifysgolion Cymru, UCM Cymru a Sefydliad Gwasanaethau Myfyrwyr, AMOSSHE, i ddatblygu cynigion polisi i Lywodraeth Cymru eu hystyried. Mae’r ddogfen wedi’i chyhoeddi i gyd-fynd ag Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ynghyd ag astudiaethau achos o brosiectau rhagorol sy’n cefnogi iechyd meddwl myfyrwyr.

Dywedodd Simon Pirotte, Cadeirydd Grŵp Lles Actif ColegauCymru,

“Mae hwn yn ddarn pwysig o waith lle mae chwaraewyr allweddol yn narpariaeth ôl-16 Cymru wedi dod ynghyd i fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu ein dysgwyr ôl-16. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a Llywodraeth Cymru i symud yr agenda hwn yn ei blaen.”

Gydag argymhellion mewn meysydd sy’n cynnwys profiad cyfartal, rhannu gwybodaeth, rolau a chyfrifoldebau, a chyllid, mae’r Grŵp yn awr yn ceisio cyfarfod â Llywodraeth Cymru i drafod sut y gallwn ddatblygu polisi ystyrlon yn y maes hwn.

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru, Dr Rachel Bowen,

“Rydym wedi hyrwyddo ers tro pwysigrwydd iechyd meddwl da i’r sector addysg bellach a chefnogi ein dysgwyr ôl-16 gyda’r heriau amrywiol y maent yn eu hwynebu. Mae’r Gweithgor yn ymgysylltu â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac mae hefyd wedi rhannu’r ddogfen â Phwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd mewn ymateb i’w hymgynghoriad ar Anghydraddoldebau Iechyd Meddwl.”

Gwybodaeth Bellach

Adroddiad y Gweithgor
Argymhellion Polisi Iechyd Meddwl ôl-16
Mai 2022

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.