Etholiad Senedd 2021: ColegauCymru yn croesawu Aelodau'r Senedd newydd a rhai sy'n dychwelyd

Senedd - Julian Nyča - CC BY-SA.jpg

Yn dilyn canlyniadau’r etholiadau i’r Senedd dros y penwythnos 7-8 Mai, mae ColegauCymru yn edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau newydd y Senedd a rheiny sy’n dychwelyd dros y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru, Dr Rachel Bowen:

“Mae Addysg Bellach yn hanfodol i adferiad Cymru o Covid-19 wrth i ni geisio adeiladu dyfodol gwell a mwy disglair i’n holl ddinasyddion.”

“Rydyn ni’n gwybod y bydd gan Gymru Weinidog Addysg newydd o leiaf ac rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu perthnasoedd gwaith adeiladol, nid yn unig gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru, ond gydag Aelodau’r Senedd o bob un o’r pedair plaid”.

“Mae dysgwyr a staff o bob rhan o'r sector Addysg Bellach yn haheddu ein hymdrechion gorau i sicrhau'r dyfodol mwyaf cadarnhaol posibl”.

Gwybodaeth Bellach

Llwyddiant yn y Dyfodol: Argymhellion Polisi ColegauCymru ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru

Llun gan Julian Nyča / CC BY-SA

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.