Llunio dyfodol addysg bellach: darparu Cymru gryfach, wyrddach a thecach

International Benchmarking page Website Banner.png

Mae sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth. Mae’n nodi cyflwyno un o’r diwygiadau mwyaf arwyddocaol i bensaernïaeth ein system addysg ers datganoli. Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i arloesi gydag un awdurdod rheoleiddio, goruchwylio a chydlynu cyffredinol ar gyfer addysg drydyddol.

Daw ar adeg pan fo rôl addysg bellach i ddyfodol ein gwlad yn bwysicach nag erioed. P'un a yw'n gwella o'r pandemig, yn siapio dyfodol gwaith, yn addasu i gymdeithas sy'n heneiddio, neu'n cyflymu'r newid i Sero Net, mae colegau'n hanfodol i bob her fawr sy'n ein hwynebu. Yn fyr, nid oes llwybr i Gymru gryfach, decach, wyrddach a dwyieithog nad oes angen sector addysg bellach sy’n perfformio’n dda ac yn gydnerth.

Mae cyllid cyhoeddus bellach dan bwysau sylweddol, gan ei gwneud yn bwysicach nag erioed ein bod yn glir ynghylch ein blaenoriaethau a’n bod yn dangos uchelgais gwirioneddol i fynd i’r afael â’r heriau hirsefydlog sy’n ein hwynebu.

Datganiad o Flaenoriaethau CTER

Erbyn diwedd 2023, bydd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Datganiad o Flaenoriaethau i helpu i lunio gwaith y Comisiwn. Mae’r papur hwn yn crynhoi’r blaenoriaethau y mae’r sector colegau yn credu y mae’n rhaid eu cyflawni gan Lywodraeth Cymru a’r Comisiwn.

1. Rhoi dysgwyr wrth galon y broses o wneud penderfyniadau

Rhaid rhoi gofynion hirdymor pob dysgwr, gan gynnwys dysgwyr galwedigaethol ac oedolion, yn gyntaf i ysgogi momentwm tuag at y newidiadau strwythurol hirdymor sy’n hwyr ac sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol. Ar adeg o bwysau sylweddol ar gyllid cyhoeddus, mae angen i’r Comisiwn a Llywodraeth Cymru ddangos parodrwydd i wneud y newidiadau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.

2. Darparu’r cyllid parhaus i ddiogelu’r cwricwlwm a chymorth i ddysgwyr

Mae angen cydnabod y pwysau costau cynyddol ar golegau, gydag ymrwymiad i ddiogelu buddsoddiad yn y cwricwlwm craidd a gynigir, gan gynnwys prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith, a chyllid parhaus ar gyfer gwasanaethau cymorth ehangach i ddysgwyr a phrofiad dysgwyr.

3. Adnewyddu'r ymrwymiad i addysg a hyfforddiant galwedigaethol

Rhaid ymrwymo i werth addysg a hyfforddiant galwedigaethol, gan gynnwys cynyddu’r cynnig galwedigaethol drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn benodol i fwrw ymlaen ag argymhellion yr Adolygiad o Gymwysterau Galwedigaethol. Bydd seilwaith i gefnogi penderfyniadau cyflym a hyblyg yn allweddol i sicrhau bod darpariaeth dysgu seiliedig ar waith sy'n addas at y diben ac y bydd o fudd i ddysgwyr a chyflogwyr fel ei gilydd.

4. Datblygu llwybr dysgu a phontio 14-19 gwell newydd i bob dysgwr

  • Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11 allu cael mynediad i addysg alwedigaethol yn y coleg; 
  • Adolygiad o hyfywedd chweched dosbarth ysgolion bach; ac
  • Asesiad o brofiadau'r dysgwyr hynny sydd â'r cymwysterau isaf neu leiaf.

5. Cyfleoedd dysgu gydol oes a dilyniant i oedolion

Er mwyn cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar ddysgu oedolion a dysgu gydol oes, rhaid cael ymrwymiad polisi cydlynol a hirdymor, wedi'i ategu gan fuddsoddiad cynaliadwy a sicr. Dylai hyn gael ei gefnogi gan gydweithio rhwng y sector, i ddatblygu polisi hirdymor a chydlynol ar gyfer addysg oedolion, gan gynnwys caniatáu i golegau ymreolaeth i ymateb i anghenion y farchnad lafur lleol.

Gwybodaeth Bellach

Datganiad o Flaenoriaethau CTER

Amy Evans, Swyddog Polisi 
Amy.Evans@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.