Llwyddiant Gwobrau TES i Goleg Gŵyr Abertawe a Choleg Caerdydd a’r Fro

Celebrate.png

Mae'n bleser gan ColegauCymru longyfarch ein haelodau Coleg Gŵyr Abertawe a Choleg Caerdydd a’r Fro ar eu llwyddiant diweddar yng Ngwobrau TES FE Awards 2021.

Cynhaliwyd y digwyddiad rhithiol ddydd Gwener 28ain Mai gyda Choleg Gŵyr Abertawe yn ennill y Wobr am Raglen Prentisiaeth y Flwyddyn tra enillodd Coleg Caerdydd a’r Fro'r Wobr Cefnogaeth i Ddysgwyr. 

Coleg Gŵyr Abertawe 
Gwobr Rhaglen Prentisiaeth y Flwyddyn

Pan wynebodd y cyflogwr rhyngwladol Tata Steel brinder sgiliau gwyddoniaeth, datrysodd Coleg Gŵyr Abertawe’r broblem, gan ddatblygu Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gwyddor Labordy a Ddiwydiannol a Phrentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Diwydiannau Gwyddor Bywyd. Maent hefyd yn gweithio'n agos gyda Phrifysgol Abertawe i sicrhau llwybr ar gyfer dilyniant. Mae cwmnïau eraill, gan gynnwys Huntsman Corporation a Vale Europe, hefyd wedi elwa o sefydlu'r rhaglen.

Hefyd, datblygodd Coleg Gŵyr Abertawe Lysgennad Prentisiaeth STEM benywaidd i ymweld ag ysgolion i chwalu'r syniad nad yw'r sector ar gyfer merched. 

Dywedodd y Barnwr Arweiniol Ian Pretty,

“Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi dangos dull arloesol sy’n  ystyried gofynion cyflogwyr ac maent wedi cyflawni anghenion un o brif gyflogwyr De Cymru. Maent hefyd wedi llwyddo i gael prentisiaid benywaidd, llawer o ardaloedd difreintiedig, i mewn i ddiwydiant lle mae dynion yn nodweddiadol yn dominyddu.” 

Coleg Caerdydd a'r Fro 
Gwobr Cefnogaeth i Ddysgwyr 

Yn ystod pandemig Covid19, cynyddodd Coleg Caerdydd a’r Fro’r gefnogaeth a oedd eisoes yn cael ei chynnig i ddysgwyr. Daeth cyfarfodydd diogelu misol sefydledig ynghyd â chyfoeth o wybodaeth gan dîm cydlyniant yr heddlu lleol, adroddiadau monitro digidol eSafe, atgyfeiriadau gan staff ynghyd â manylion tensiynau cymunedol yn yr ardal leol, i ddeall yr heriau sy'n wynebu dysgwyr. Er gwaethaf y ffaith bod campysau ar gau, sefydlwyd hybiau diogelu i ddarparu opsiynau gwirio hanfodol ar gyfer dysgwyr agored i niwed ac ar gyfer y rhai a oedd angen cymorth ychwanegol arnynt. 

Bu'r Coleg hefyd mewn partneriaeth â Here We Flo i sicrhau bod dysgwyr yn cael cynhyrchion misglwyf am ddim yn ystod  y Cyfnod Clo. Hefyd, rhoddwyd hyfforddiant trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i staff i'w galluogi i gynnig cefnogaeth lle bo angen. 

Dywedodd y Barnwr Arweiniol Vicky Duckworth,

“Dangosodd Coleg Caerdydd a'r Fro ymrwymiad gwirioneddol i gefnogi dysgwyr a gwrando ar leisiau eu dysgwyr a’u cymuned.” 


Ychwanegodd Dr Rachel Bowen, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru,

“Mae Coleg Gŵyr Abertawe a Choleg Caerdydd a’r Fro yn dangos bod ein colegau gymaint yn fwy na lle i addysg yn unig. Maent yn gwneud cyfraniadau gwerthfawr i’n dinasyddion a’u cymunedau, yn ogystal â gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ffyniant economi Cymru yn y dyfodol.” 


Gwybodaeth Bellach

TES FE Awards 2021 
 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.