#PodAddysgu - Meddwl am Wydnwch

TeachPod banner.png

Dyma bodlediad yng nghwmni Helen Lloyd Cydlynydd Pwnc ol-16 a DSW Iechyd a Gofal i'r Coleg Cymraeg a Carys Swain Rheolwr Gwasanaethau Myfyrwyr a'r Gymraeg yng Ngholeg Penybont. ‘Meddwl am wydnwch’ yw thema'r Podlediad hwn, ac mae’r drafodaeth yn cynnwys sgwrs am adnoddau Bloom UK. Mae Bloom UK yn rhaglen gan Mental Health UK sy’n annog a helpu myfyrwyr yn eu glasoed i ddatblygu sgiliau gwydnwch/dygnwch er mwyn iddynt allu helpu eu hunain a’u cyfoedion gyda chyfnodau allweddol yn eu bywydau. Mae Helen Lloyd yn un o hyfforddwyr cysylltiol y rhaglen ac yn bennaf gyfrifol am ddarparu sesiynau yn Gymraeg i golegau ac ysgolion ledled Cymru. Cawn hefyd gipolwg ar rai o’r cynlluniau a phrosiectau sydd ar waith yn ein colegau wrth drin a thrafod cynllun ‘Meddwl am dy feddwl’ Coleg Pen-y-bont a sut maent wedi mynd ati dan fwriad i drefnu pecyn o gefnogaeth i ddysgwyr a chael cydnabyddiaeth am hynny mewn arolwg thematig diweddar gan ESTYN.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.