Colegau ledled Cymru yn dathlu cyflawniadau dysgwyr mewn blwyddyn ddigynsail

48543957881_24393aa287_c.jpg

Rydym yn falch iawn o ddathlu cyflawniadau dysgwyr heddiw wrth iddynt dderbyn canlyniadau cymwysterau UG, Safon Uwch a galwedigaethol. Mae dysgwyr wedi ymateb yn gadarnhaol i'r heriau sydd wedi eu hwynebu mewn blwyddyn academaidd ddigynsail ac anodd. Rydym yn cydnabod ac yn cymeradwyo eu gwytnwch a'u hymrwymiad i barhau â'u hastudiaethau mewn cyfnod ansicr. Rydym hefyd yn diolch i'r holl staff, rhieni a gofalwyr am eu hymroddiad a'u cefnogaeth i helpu dysgwyr i gyflawni eu gorau.

Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru, Dafydd Evans,

“Rydym yn falch iawn o ddathlu ein dysgwyr a’u cyflawniadau heddiw. Mae colegau ledled Cymru bellach yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad i unigolion wrth iddynt gymryd y camau nesaf, boed hynny i addysg uwch, prentisiaeth neu gyflogaeth.”

Ymhellach, rydym yn croesawu addewid y Gweinidog Addysg na fydd graddau Safon Uwch yng Nghymru eleni yn is na’r rhai a gyflawnwyd yn yr arholiadau Uwch Gyfrannol y flwyddyn flaenorol a byddwn yn parhau i fonitro ac ymateb i’r sefyllfa wrth iddi esblygu.

Mae colegau wedi gweithio'n ddiflino ac yn ofalus i ddilyn canllawiau a osodwyd gan sefydliadau dyfarnu a rheoleiddwyr yn y broses ddyfarnu. Mae'r broses hon yn cynnwys nifer o elfennau cymhleth, ar lefel sefydliad ac yna ar lefel sefydliad dyfarnu, sy'n cyfrannu at ddyfarnu cymwysterau yn gywir, yn deg ac yn gadarn.

Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Rydym yn nodi’r pryder wrth ddyfarnu graddau Safon Uwch yma yng Nghymru ac yn croesawu’r camau a gyhoeddwyd ddoe i fynd i’r afael â hyn. Rydym yn aros am ganllawiau pellach ar faterion yn ymwneud â chyfraniadau Bagloriaeth Cymru a graddau UG i ddyfarniadau A2 y flwyddyn nesaf. Rydym yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda CBAC, Cymwysterau Cymru a chydweithwyr Llywodraeth Cymru i ddatrys unrhyw faterion dros y dyddiau nesaf ”.

Gorffennodd Iestyn Davies,

“Rydym yn llongyfarch dysgwyr, staff a rhieni yn frwd yn eu cyflawniadau ar y cyd heddiw ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt ar gyfer y dyfodol. Maen nhw'n parhau i fod yn flaenoriaeth i golegau addysg bellach a bydd gwasanaethau cyngor ac arweiniad wrth law i'w cynorthwyo i gymryd y camau nesaf."

Gwybodaeth Bellach
Datganiad gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams ar Lefel A/UG a Chanlyniadau Uwch Gymhwyster Bagloriaeth Cymru 20

"Rydym yn llongyfarch dysgwyr, staff a rhieni yn frwd yn eu cyflawniadau ar y cyd heddiw ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt ar gyfer y dyfodol."

Prif Weithredwr ColegauCymru, Iestyn Davies

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.