Sector addysg bellach Cymru yn tynnu sylw at rôl colegau mewn datblygiad economaidd yng nghyfarfod Cynghrair Colegau’r Pedair Gwlad

Conference.jpg

Yr wythnos hon mae ColegauCymru yn cynrychioli sector addysg bellach Cymru yng nghyfarfod Cynghrair Colegau’r Pedair Gwlad ym Melfast. 

Mae'r digwyddiad yn canolbwyntio ar y rôl hollbwysig y mae colegau yn ei chwarae mewn datblygiad economaidd rhanbarthol, gan ddod â chynrychiolwyr colegau o bob rhan o'r Deyrnas Unedig ynghyd. Mae’r cyfarfod yn gyfle i archwilio’r rôl ganolog y mae colegau’n ei chwarae fel sefydliadau allweddol sydd wrth galon yr economi. Gan ddarparu lle i rannu a dysgu ar draws y systemau gwahanol, bydd y cyfarfod yn caniatáu i golegau ddyfnhau eu dealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio, a gwersi i’w dysgu a’u rhannu, a sut y caiff rôl colegau eisoes ei chefnogi orau gan lunwyr polisi a’i hymgorffori mewn agendâu ehangach. 

Ar hyn o bryd mae nifer o ddiwygiadau sylweddol yn y maes hwn ar draws y gwledydd, gan gynnwys sefydlu’r Comisiwn dros Addysg Drydyddol ac Ymchwil yng Nghymru a fydd yn ailwampio strategaeth, cyllid a goruwchwilio ym maes addysg ôl-16. Bydd y cyfarfod hwn felly yn gyfle amserol i rannu syniadau a dysg o’r systemau a’r arferion sefydliadol gwahanol a gynrychiolir ar draws aelodau Cynghrair Colegau’r Pedair Gwlad. 

Dywedodd Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru, Rachel Cable, 

“Rydym yn falch i fynychu’r digwyddiad hwn a gynhelir gan Met Belfast. Colegau yw’r cogiau allweddol ym mheirianwaith economaidd Cymru, ac rydym yn awyddus i ddysgu o ddulliau gweithredu mewn mannau eraill yn y DU, yn ogystal â rhannu ein profiadau yng Nghymru. Mae buddsoddi mewn addysg bellach yn cefnogi datblygiad economaidd yn uniongyrchol, ac mae’n bwysig cydnabod y rhan hollbwysig y mae colegau yn ei chwarae yn ein heconomi”. 

Gwybodaeth Bellach 

Four Nations College Alliance / The College of the Future

Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.