Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25

money jar.jpg

Ymateb Ymgynghori

Pwyllgor Cyllid

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: 30 Tachwedd 2023

Nid yw addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith yn eitemau moethus sy’n ‘braf eu cael’ – maent ill dau yn gwbl sylfaenol i’n hadferiad economaidd ac i adeiladu’r gymdeithas decach yr ydym i gyd am ei hadeiladu. Bydd torri cyllid ar gyfer y naill neu’r llall yn gwanhau’r potensial ar gyfer twf economaidd cynaliadwy ac yn effeithio ar gyfleoedd bywyd pobl sy’n byw yn ein cymunedau tlotaf. Dylid deall effaith gronnus unrhyw ostyngiadau posibl yn y gyllideb i addysg bellach a phrentisiaethau yn ei gyfanrwydd. Nawr yw'r amser i fuddsoddi yn ein dysgwyr, ein gweithwyr, a'r rhai sydd angen ail gyfle.

Mae effaith addysgol a chymdeithasol y pandemig yn dal i fod yn amlwg trwy lefelau presenoldeb gwael mewn ysgolion, heriau iechyd meddwl sylweddol sy'n wynebu llawer o ddysgwyr, a thystiolaeth o heriau ymddygiadol ehangach dysgwyr sy'n mynd i'r coleg. Mae angen i addysg bellach gael adnoddau priodol i’w alluogi i liniaru effaith y pandemig yn ystod addysg ysgol ac i sicrhau nad yw’r dysgwyr mwyaf agored i niwed dan anfantais ddwywaith.

Bydd y toriad arfaethedig o 24% i’r rhaglen brentisiaethau yn gweld y gostyngiad mwyaf mewn gweithgarwch dysgu seiliedig ar waith ers datganoli, gyda thua 10,000 yn llai o unigolion yn gallu dechrau prentis y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn tanseilio cymorth ar unwaith i’n cwmnïau angori a busnesau bach a chanolig, yn ogystal â pheryglu cyfleoedd mewnfuddsoddi yn y dyfodol. Mae amddiffyn y cyllidebau prentisiaeth a dysgu rhan-amser yn hanfodol i sicrhau bod cyflogwyr yn gallu uwchsgilio eu gweithlu a thyfu eu busnesau.

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch â Swyddog Polisi ColegauCymru, Amy Evans, gydag unrhyw gwestiynau.
Amy.Evans@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.