Addysg 14-16 o dan y cwricwlwm newydd

Faceless students in college grounds.jpg

Ymateb Ymgynghoriad

​​​​​Llywodraeth Cymru

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: 8 Mai 2024 

Tynnodd ColegauCymru sylw at yr angen i weld y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) a Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu datblygiad llwybr dysgu a phontio 14-19 newydd y mae’n rhaid iddo gynnwys mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11 allu cael mynediad at addysg alwedigaethol yn y coleg. Er mwyn sicrhau bod pob person 14-16 oed yn cael darlun llawn o’u hopsiynau ôl-16, mae’n hanfodol bod ysgolion yn ymgysylltu’n ystyrlon â cholegau, fodd bynnag rydym yn pryderu nad yw’r canllawiau statudol yn nodi gofynion gorfodol ar gyfer sut y dylai ysgolion ymgysylltu â cholegau, dim ond awgrymiadau y gall ysgolion ddewis peidio â'u derbyn y mae'n eu cynnig.

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch â Swyddog Polisi ColegauCymru, Amy Evans, gydag unrhyw gwestiynau.
Amy.Evans@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.