ColegauCymru yn ymateb i Strategaeth newydd Tlodi Plant Cymru

Faceless students in college grounds.jpg

Yr wythnos hon cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2024 newydd.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,

“Rydym yn croesawu’r gydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru o’r angen dybryd i fynd i’r afael â lefelau acíwt a chronig tlodi plant, ond rydym yn rhannu’r siom a fynegwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru ynglŷn â’r diffyg targedau penodol.

Bob dydd, mae colegau ledled Cymru ar y rheng flaen yn cefnogi dysgwyr, er enghraifft, darparu gwasanaethau iechyd meddwl a lles, cynnig brecwast am ddim, a darparu rhaglenni dysgu fel teulu. Mae’r dystiolaeth yn dweud wrthym fod tlodi ac amddifadedd cymdeithasol mewn plant yn gysylltiedig â thangyflawni addysgol, ac mae pobl ifanc Cymru yn haeddu’r dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Gall colegau gael effaith drawsnewidiol ar bobl ifanc a chymunedau os ydynt yn cael eu hariannu'n ddigonol. Mae llwyddiant mewn addysg a hyfforddiant yn rhan sylfaenol o’r llwybr allan o dlodi, ac mae’n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau cyllid parhaus ar gyfer addysg bellach i alluogi colegau i barhau i gefnogi’r dysgwyr mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau – ar gyfer cenedlaethau heddiw a chenedlaethau’r dyfodol. Bydd colegau’n parhau i wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi pobl ifanc i ennill y sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnynt i ddianc rhag tlodi”.

Gwybodaeth Bellach

Datganiad Cabinet
Datganiad Llafar: Strategaeth Tlodi Plant Cymru
23 Ionawr 2024

Rachel Cable, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.