Buddsoddiad parhaus ar gyfer prentisiaethau ac addysg bellach yn hanfodol cyn cyhoeddi cyllideb “hynod o anodd”.

Catering learners.jpg

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft ar 19 Rhagfyr sy’n debygol o fod yn arwydd o gyfnod heriol iawn i’r sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith. 

Mae ColegauCymru wedi tynnu sylw at bryder ynghylch effaith cyllidebau llai posibl ar draws prentisiaethau a’r cynnig addysg bellach ehangach. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, 

“Cyn cyhoeddi’r gyllideb ddrafft yfory, a’r gostyngiadau sylweddol sy’n debygol o gael eu cyhoeddi ar draws nifer o sectorau, rydym yn galw am fuddsoddiad parhaus mewn prentisiaethau a chyllid addysg bellach ehangach. 

Nid yw addysg bellach a phrentisiaethau yn ‘neis i’w gael’, ond maent yn sylfaenol i’n hadferiad economaidd ac adeiladu ffyniant Cymru. Mae ein colegau yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr gael mynediad at y sgiliau a’r hyfforddiant y mae cyflogwyr yn galw amdanynt i helpu i gyflawni hyn.” 

Effaith ar brentisiaethau 

Yn ddiweddar, lansiodd Llywodraeth Cymru ei Chenhadaeth Economaidd newydd, gyda phwyslais ar gefnogi sectorau allweddol i dyfu, ac i flaenoriaethu pobl ifanc. Ar yr un pryd, y disgwyl yw y bydd rhaglen brentisiaethau flaenllaw Cymru yn destun toriadau dwfn, a fydd yn cwtogi ar gyfleoedd i filoedd o bobl ifanc ledled Cymru ac yn peryglu buddsoddiad busnes newydd. Mae dadansoddiad cychwynnol yn nodi: 

  • Cyfanswm y toriad i’r rhaglen brentisiaeth yn y flwyddyn gontract lawn 2024/25 fydd 24.5%. 
  • Bydd effaith y toriadau arfaethedig hyn yn arwain at tua 10,000 yn llai o brentisiaethau yn dechrau ar raglen brentisiaethau flaenllaw Llywodraeth Cymru yn 2024/25. 
  • Byddai’r gostyngiadau’n disgyn yn anghymesur ar bobl ifanc (16-24), y rhai yn y grwpiau economaidd-gymdeithasol isaf a menywod. Mae'r dadansoddiad hefyd yn nodi y byddai'n debygol o olygu gostyngiad sylweddol yn nifer y dysgwyr prentisiaethau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
  • Mae adborth gan golegau yn nodi y bydd busnesau yr effeithir arnynt yn cynnwys cwmnïau angori sydd wedi mynegi eu dymuniad i ehangu nifer eu prentisiaethau, a bod mewnfuddsoddiad newydd yn seiliedig yn rhannol ar argaeledd prentisiaethau. 

Effaith ar y cynnig addysg bellach ehangach 

Eleni, bydd ein sefydliadau addysg bellach yn gweld pwysau ariannol ychwanegol o dros £27miliwn (7.3%) yn deillio o ostyngiadau mewn grantiau, a chostau cyflog ychwanegol. Er bod rhai o'r gostyngiadau hyn wedi'u rhagweld, fe ddaw ar adeg pan fo colegau'n gweld cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy'n cofrestru mewn coleg, a fydd yn cywasgu pwysau ariannol. Yn ogystal â hynny, mae’r costau cynyddol ar gyfer nwyddau traul, yn ogystal â’r galw cynyddol sylweddol am wasanaethau llesiant dysgwyr yn dwysáu’r pwysau ar y gyllideb. Mae ColegauCymru yn galw am gyllid ychwanegol i dalu am y cyfnod pontio parhaus hwn.  

Ychwanegodd Mr Hagendyk, 

“Nid yw Cenhadaeth Economaidd uchelgeisiol Llywodraeth Cymru yn bosibl heb fuddsoddiad parhaus mewn prentisiaethau ac addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel. Mae angen ymrwymiad parhaus i ddiogelu’r ffrydiau ariannu hyn er mwyn sicrhau budd a ffyniant hirdymor i Gymru.” 

Gwybodaeth Bellach 

Rachel Cable, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus 
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.